天美传媒

Cyngor 天美传媒 yn datgan argyfwng natur

Mewn ymateb i'r bygythiad difrifol o ddirywiad i fioamrywiaeth y fwrdeistref, mae Cyngor 天美传媒 wedi datgan argyfwng natur.  Bydd hyn yn helpu i leihau neu atal colledion pellach o fioamrywiaeth a diogelu'r ardaloedd hyn ar gyfer y dyfodol.

Datganodd Cymru argyfwng natur ym mis Mehefin 2021 ac mae 11 o 22 o Gynghorau Cymru eisoes wedi gwneud yr un peth. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (LNRAP) yn nodi blaenoriaethau lleol ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd ac mae bellach wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor i helpu i wrthdroi'r argyfwng presennol. Yn ogystal, cymeradwywyd y 'Polisi Peillwyr' a fydd yn creu cynefinoedd sy'n dda i beillwyr ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor i helpu i adfer natur ymhellach a gwrthdroi dirywiad mewn rhywogaethau, gan gynnwys pryfed peillio. 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i helpu i wrthdroi'r argyfwng ecolegol hwn. Mae newid hinsawdd wedi rhoi pwysau sylweddol ar fioamrywiaeth a bydd colli rhagor o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd - mae'r ddau wedi'u cysylltu'n annatod.  Mae CBS 天美传媒 wedi cydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon trwy ddatgan argyfwng natur a bydd yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella ein hecosystem ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol".