Mae cynghorau Torfaen a 天美传媒 bellach yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau diogelu'r cyhoedd, felly'n arwain at arbediad blynyddol o tua 拢80k ar draws pob cyngor.
Bydd y polisi newydd ar y cyd yn sicrhau bod gorfodi yn cael ei drin mewn ffordd gyson ar draws y ddau awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, aelod gweithredol dros yr amgylchedd yng nghyngor Torfaen: "Ar adeg pan ofynnir i gynghorau gyflawni mwy er bod yna doriadau yn eu cyllidebau, mae uno ein gwasanaethau diogelu'r cyhoedd gyda 天美传媒 wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae'r fath bolisi'n uno ein harferion.
"Rydym wedi canfod ffordd o arbed arian tra hefyd yn gwella cadernid y gwasanaeth, felly'n sicrhau y gallwn barhau i wneud ein gorau oll i ddiogelu trigolion a busnesau yn Nhorfaen a 天美传媒."
Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, aelod gweithredol dros yr amgylchedd ym Mlaenau Gwent, : "Mae Cyngor 天美传媒 wrthi'n barhaus yn adolygu ac yn addasu gwasanaethau yng ngoleuni llai o gyllid gan y Llywodraeth. Gwyddom mai un o'r ffyrdd gorau o barhau i ddarparu gwasanaethau pwysig yw cydweithio ag awdurdodau lleol cyfagos.
"Mae ein partneriaeth 芒 Chyngor Torfaen ar Wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn a dyma'r cam diweddaraf o ran sicrhau bod ein dau gyngor yn cydgysylltiedig er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaeth cost effeithiol fwyaf effeithlon i drigolion."