Mae busnes plymio a gwresogi newydd ym Mlaenau Gwent wedi gallu agor ystafell arddangos newydd a gwella ei farchnata ar-lein diolch i Grant Datblygu Busnes.
Mae Valley Plumbing Supplies Ltd wedi defnyddio'r arian a roddwyd iddynt i agor safle yn Yst芒d Ddiwydiannol Rising Sun yn y Blaenau, sy'n cynnwys ystafell arddangos newydd. Mae'r grant wedi helpu gyda鈥檙 costau o osod ystafell arddangos newydd a siop ar gyfer cyflenwadau ystafell ymolchi a phlymio, yn ogystal ag arwyddion a byrddau hysbysebu a gwefan.
Sefydlwyd Valley Plumbing Supplies gan Joel Fleming a Jonathan Ayears, a oedd, drwy gydweithio drwy eu busnesau presennol, wedi nodi cyfle i sefydlu cwmni ar y cyd i lenwi bwlch yn y farchnad yn lleol. Mae VPS yn cyflenwi'r holl nwyddau a deunyddiau plymio, gan gynnwys boeleri, ategolion boeler, pibelli, ffitiadau pibelli ac offer llaw sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phlymio, ac maent hefyd yn cyflenwi unrhyw ddodrefn ystafell ymolchi o dapiau i faddonau sy鈥檔 addas i bob cyllideb. Sefydlwyd y busnes i ddechrau i werthu i fyd masnach yn bennaf ond ers agor maent hefyd wedi gweld gwerthiant uchel o ddodrefn ystafell ymolchi yn uniongyrchol i'r cyhoedd, a dyna pam maent yn ehangu i'r unedau cyfagos i sefydlu ystafelloedd arddangos.
Meddai Jonathan: "Fel cwmni newydd, mae鈥檙 grant yma wedi helpu'n aruthrol, ry'n ni mor falch gyda sut mae pethau'n edrych yn yr ystafell arddangos newydd - dewch i gael golwg!"
Mae Grant Datblygu Busnes 天美传媒 yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y T卯m Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent.
Mae'r newyddion da yn parhau gan fod y cwmni wedi cyflogi gweithiwr newydd yn ddiweddar. Mae Ben Carpenter wedi cael ei gyflogi gan y cwmni yn dilyn lleoliad chwe mis ar gynllun QuickStart*, a ariennir gan Gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Datblygu Economaidd:
"Mae'n bwysig bod busnes yn gallu marchnata ei hun yn effeithiol a rhoi gwybod i ddarpar gwsmeriaid beth mae'n ei gynnig, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Valleys Plumbing Supplies drwy hwyluso'r grant hwn ar gyfer ystafell arddangos newydd. Mae hefyd wedi creu cyfle cyflogaeth, sy'n wych. Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau y gall pobl aros yn lleol a siopa'n lleol ar gyfer eu holl anghenion."
Mae'r rhaglen QuickStart yn cynnig lleoliadau gwaith cyflogedig chwe mis ym Mlaenau Gwent i unrhyw un 16+ oed sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar, i gael profiad gwerthfawr a gwella sgiliau cyflogadwyedd i gynyddu eu siawns o ddod o hyd i waith llawn-amser ar 么l i'r lleoliad ddod i ben.