天美传媒

Capel y Drindod, Abertyleri i ddod yn Llyfrgell a gofod cymunedol newydd

Bydd gwaith yn dechrau yn y flwyddyn newydd ar adfer tu mewn Capel y Drindod, Abertyleri, i gynnwys llyfrgell newydd modern ynghyd 芒 swyddfa/gofod dysgu a chymunedol newydd.

Bydd Llyfrgell Abertyleri, a gaiff ei redeg gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, yn symud o鈥檌 leoliad presennol yn Stryd y Castell i safle mwy cyfleus yng nghanol y dref unwaith y cafodd y gwaith ei gwblhau.

Ar y llawr daear fydd 芒 mynediad drwy鈥檙 prif ddrws ar y stryd fawr bydd y stoc llyfrau llyfrgell ac ar y llawr cyntaf bydd cynnig digidol y llyfrgell ar draws y gofod cynllun agored mawr gan greu amgylchedd tawel a hamddenol ar gyfer defnydd y gymuned. Caiff y llawr uchaf ei ddefnyddio gan addysg oedolion Hamdden Aneurin fydd yn cynnwys ystafell ddosbarth aml-ddefnydd ac ystafell ddosbarth dysgu digidol. Bydd derbynfa fawr i ddysgwyr ymlacio ynddi rhwng dosbarthiadau ac ystafell gyfarfod y gellir ei harchebu ar gyfer grwpiau cymunedol ychwanegol.

Mae鈥檙 gwaith yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor 天美传媒, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Llywodraeth Cymru. Sicrhawyd cyllid o Raglen Adfywio Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Grant Gwres Carbon Isel, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Cyfalaf Trawsnewidiol ar gyfer llyfrgelloedd.

Nod adleoli strategol y llyfrgell i ganol y dref yw cynyddu cyswllt 芒鈥檙 cyhoedd ac ymestyn gwasanaethau Hamdden Aneurin i gynulleidfa ehangach.

Bydd y gwaith yn dechrau yn Ionawr 2024 i鈥檞 gwblhau erbyn hydref 2024 ac mae鈥檙 cynllun yn gydnaws gydag ymrwymiad cadarn y Cyngor i ailfywiogi Abertyleri.

Mae鈥檙 Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer safle鈥檙 llyfrgell presennol, gyda nifer o ddatganiadau diddordeb wedi鈥檜 derbyn hyd yma.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio y Cyngor:

鈥淢ae hwn yn amser cyffrous i Gapel y Drindod a鈥檙 nod yw ei wneud yn hyb prysur i鈥檙 dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, cynlluniau cymunedol a gweithgareddau yng nghanol y dref. Gobeithiwn y bydd hyn, ynghyd 芒 chynlluniau eraill ar gyfer Abertyleri, yn cael effaith gadarnhaol ar ganol y dref a鈥檙 gymuned leol. Hoffwn ddiolch i鈥檙 t卯m Adfywio am eu holl waith caled wrth ddod 芒鈥檙 prosiect hwn i ffrwyth.鈥

Ychwanegodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Hamdden Aneurin

鈥淩ydym wrth ein bodd gweld prosiect Capel y Drindod yn dod i ffrwyth. Mae T卯m Adfywio CBSBG ynghyd 芒鈥檙 Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell a鈥檙 Rheolwr Addysg Oedolion wedi gweithio鈥檔 galed tu hwnt i sicrhau鈥檙 cyllid ar gyfer y prosiect hwn ac ni all yr Ymddiriedolaeth aros i weld y gwasanaethau a gyflwynir yng nghanol tref Abertyleri. Gyda ffocws ar ostwng ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, rydym yn hynod falch i weld safle arall yn defnyddio ynni solar a hwn fydd ein safle cyntaf i ddefnyddio pympiau gwres o鈥檙 aer fydd yn creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad eiconig hwn a鈥檌 alluogi i ddod unwaith eto yn ganolbwynt yng nghanol y dref.鈥