天美传媒

Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer Ysgol Six Bells

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiectau Ysgolion 21ain Ganrif y Cyngor sy'n anelu i foderneiddio'r stad ysgolion yn yr ardal ac i barhau i gyflawni ei ymrwymiad i wella safonau ysgolion a pherfformiad addysg ym Mlaenau Gwent.

Bydd yr ysgol yn disodli campysau Heol Bryngwyn a Stryd y Frenhines a bydd yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri a agorodd ym mis Medi 2016. Cefnogir yr ysgol 拢6.9 miliwn gyda chyllid gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Gweithiodd timau Addysg y Cyngor gydag aelodau'r gymuned leol i edrych ar sylwadau pobl leol ac arweiniodd hyn at newid nifer o agweddau o'r cais gwreiddiol. Mae'r Cyngor yn gobeithio parhau i weithio gyda'r gymuned yn y dyfodol ar faterion fydd yn ffurfio rhan o'r caniat芒d cynllunio llawn y flwyddyn nesaf megis dyluniad manwl yr adeilad.

Dywedodd y Cynghorydd Keren Bender, Aelod Gweithrediaeth Addysg y Cyngor:

"Rwy'n croesawu penderfyniad y pwyllgor cynllunio i roi caniat芒d cynllunio amlinellol ar gyfer ysgol gynradd gymunedol newydd yn Six Bells. Bydd ysgol newydd yn rhoi amgylchedd dysgu modern i blant yr ardal a'r cyfleusterau y maent yn eu haeddu a pharhau ymrwymiad y Cyngor i godi safonau addysg ac uchelgais yn ardal Abertyleri a 天美传媒 yn ei gyfanrwydd.

"Gallwn yn awr symud ymlaen i benodi contractwr ar gyfer y gwaith adeiladu a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda phwy bynnag a benodir ar y materion a gadwyd a gytunwyd fel rhan o'r caniat芒d. Dylai hyn roi sicrwydd cryf y byddwn yn parhau i gefnogi rhai o'r materion pwysig a ddynodwyd gan y gymuned cyn cyflwyno cais cynllunio llawn y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys dyluniad terfynol yr adeilad, cadw mynediad a mannau gweld cofeb The Guardian, lleoedd parcio a mesurau priffordd a thraffig. Rydym wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Adfywio Six Bells i roi ystyriaeth i bryderon lleol ac arweiniodd hyn at welliannau i'r cynllun gwreiddiol. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda'r datblygiad pwysig yma."

         Agorodd Cymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae'n dod 芒'r pedair ysgol gynradd leol a'r ysgol uwchradd at ei gilydd i ddarparu addysg pob oed 3-16 ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae pump campws gwahanol, a ddaw'n bedwar pan fydd campysau Heol Bryngwyn a Stryd y Frenhines yn uno yn ysgol newydd. Mae gan y Gymuned Ddysgu Bennaeth ac Is-bennaeth a Phennaeth Campws ym mhob safle.