天美传媒

Cabinet Cyngor 天美传媒 yn croesawu sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2023/24

Mae Cabinet Cyngor 天美传媒 wedi croesawu adroddiad monitro ar Gyllideb y llynedd (2023/24), sy'n dangos bod yr awdurdod wedi gorffen y flwyddyn mewn sefyllfa ariannol llawer gwell na'r disgwyl.

Mae'r adroddiad a gyflwynwyd heddiw wedi dangos, oherwydd rheolaeth ariannol gref ar draws y Cyngor ynghyd 芒 rhai pwysau cost is na'r disgwyl, yn ogystal 芒 sicrhau cymaint o gyllid grant 芒 phosib, fod y swm sydd ei angen o gronfeydd wrth gefn y Cyngor i gydbwyso'r gyllideb wedi gostwng o ychydig dros 拢4 miliwn i 拢820,000.

Er bod hyn yn well na'r newyddion disgwyliedig, mae heriau ariannol sylweddol o'n blaenau o hyd wrth bennu cyllidebau'r Cyngor, gydag amcangyfrifon cyfredol yn dangos yr angen i arbed 拢27m dros y 4 blynedd nesaf.

Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Stephen Thomas, oedd cadeirydd cyfarfod y Cabinet heddiw. Dywedodd:

"Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn sy'n dangos ein bod, ar y cyfan, wedi gorffen y flwyddyn mewn sefyllfa ariannol llawer gwell na'r gyllideb wreiddiol y cytunwyd arni. Daeth y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn i mewn yn is na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, sy'n golygu ein bod wedi defnyddio lefel is o gronfeydd wrth gefn na'r disgwyl. Hoffwn gydnabod gwaith deiliaid cyllidebau ar draws y Cyngor sydd wedi cydnabod ein sefyllfa ariannol ddifrifol a rheoli cyllidebau yn ofalus.

"Er bod hyn yn ganlyniad boddhaol a fydd yn cefnogi ein gwydnwch ariannol parhaus, rydym hefyd yn gwybod bod heriau ariannol mwy sylweddol i'w hwynebu gan y sector cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod a fydd yn gofyn i ni fod yn arloesol gyda gwasanaethau a gwneud penderfyniadau anodd i ddod o hyd i arbedion a chydbwyso chyllidebau."

Croesawodd aelodau'r Cabinet hefyd adroddiad ar fonitro cyllidebau prosiectau cyfalaf gyda'r holl brosiectau'n symud ymlaen yn dda ac o fewn y gyllideb.