天美传媒

Arweinydd Cyngor 天美传媒 yn ymateb i Storm Bert

"Mae Storm Bert wedi dod 芒 dinistr ar draws De Cymru, ac mae ein cymunedau ym Mlaenau Gwent wedi cael eu heffeithio'n fawr.  Roedd y tywydd yn waeth na鈥檙 holl ragolygon, gyda symiau digynsail o law mewn rhai ardaloedd yn ein bwrdeistref. Roedd hon yn her eithriadol i'n Cyngor, ein gwasanaethau brys a'n cymunedau, wrth i ni weithio'n ddiflino i ymateb i nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.

"Ein blaenoriaeth gyntaf oedd diogelu bywydau ein preswylwyr, diogelu eiddo lle bo hynny'n bosibl, a gwarchod seilwaith hanfodol. Er ein cynllunio a'n paratoadau yn seiliedig ar y rhagolygon a oedd ar gael, roedd dwyster ac effaith y storm yn fwy na phob disgwyliad. Mae cartrefi, busnesau, ysgolion, ffyrdd a chyfleusterau gofal plant wedi cael eu heffeithio. Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gennym yn ddigynsail, ac ar un adeg, roedd ein llinellau ff么n y tu allan i oriau wedi'u gorlethu'n llwyr.

"Roedd ein timau rheng flaen wedi paratoi, gydag adnoddau, offer a gwiriadau ychwanegol ar waith. Fodd bynnag, roedd ffyrnigrwydd y storm yn golygu ein bod ni, fel llawer ar draws y rhanbarth, wedi wynebu heriau enfawr.

"Mae'r tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi achosi aflonyddwch a gofid sylweddol, ond mae鈥檙 ymdrechion adfer yn mynd yn dda. Rydyn ni wedi clirio malurion ac ailgyfeirio d诺r i system ddraenio oddi ar y safle. Bydd asesiadau pellach yn penderfynu a oes angen cymryd camau ychwanegol. Mae trigolion wedi cael gwybod y gallant ddychwelyd adref.

"Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gwyddom fod digwyddiadau fel hyn yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd. Bydd meithrin gwytnwch yn ein cymunedau yn hanfodol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Cynhelir 么l-drafodaeth ac adolygiad llawn o'n hymateb i ddysgu gwersi, ond ar hyn o bryd, mae ein ffocws ar adfer a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Er ein bod yn teimlo rhyddhad na chollwyd unrhyw fywydau ac na chafwyd unrhyw anafiadau difrifol, gwyddom fod llawer o deuluoedd wedi wynebu dinistr yn sgil y lifogydd ac fel y dywedais, mae rhai preswylwyr wedi cael eu dadleoli o'u cartrefi. Ar ran y Cyngor, mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff ac asiantaethau partner anhygoel y Cyngor am eu hymdrechion diflino yn ystod y digwyddiad mawr hwn. Mae eu hymrwymiad i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i hefyd am ddiolch i鈥檓 cyd-gynghorwyr am eu presenoldeb a'u cefnogaeth weladwy ar lawr gwlad. Mae eich sicrwydd a'ch ymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy.

"Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'n cymunedau. Unwaith eto, mae 天美传媒 wedi dangos gwytnwch ac undod aruthrol. Mae cymdogion wedi dod at ei gilydd, mae grwpiau wedi gweithredu, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus. Mae eich tosturi a'ch penderfyniad yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth.

"Rydyn ni鈥檔 parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddarparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i adfer. Yng Nghwmtyleri byddwn yn aros ar y safle nes bod yr holl fesurau diogelwch wedi'u cwblhau. Yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan y llifogydd, fel y Cwm, Llanhiledd a Thredegar, mae ein timau wedi bod yn cynorthwyo drwy lanhau, cynnig llety dros dro, a sicrhau y gall trigolion gael mynediad i鈥檙 cymorth ariannol sydd ar gael. Mae canolfannau cynghori a staff o ystod o wasanaethau yn parhau i fod wrth law i helpu.

"Mae hwn yn gyfnod o her aruthrol, ond gyda'n gilydd, gallwn adfer ac ailadeiladu. Mae 天美传媒 wastad wedi sefyll yn gryf yn wyneb adfyd, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gilydd wrth i ni symud 鈥檓laen."

Y Cynghorydd Steve Thomas
Arweinydd Cyngor 天美传媒