天美传媒

Arloesi, Seilwaith a Her,

Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cyhoeddi bod yna Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd wedi鈥檌 greu. Mae鈥檔 canolbwyntio ar dair blaenoriaeth y rhanbarth, sy鈥檔 cynnwys arloesi, seilwaith a her, gan alluogi鈥檙 trosoli mwyaf posibl o鈥檙 拢495 miliwn sydd gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael ar gyfer buddsoddi.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd hirdymor, sydd 芒鈥檙 nod o gael y rhanbarth cyfan i fod yn hunangynhaliol. Mae鈥檔 cynnwys y deg awdurdod lleol, sef 天美传媒, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.

O鈥檙 拢1.2 biliwn sydd ar gael, mae 拢734 miliwn wedi鈥檌 neilltuo ar gyfer Metro De Cymru, ac mae鈥檙 拢495 miliwn sy鈥檔 weddill ar gael ar gyfer cyllido prosiectau a chanddynt botensial mawr yn y rhanbarth drwy鈥檌 Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd. Mae鈥檙 dull tair blaenoriaeth unswydd bwrpasol wedi鈥檌 ddatblygu mewn partneriaeth 芒鈥檙 gymuned o fuddsoddwyr i drosoli'r buddion economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl o鈥檙 拢495 miliwn.

Bydd y Flaenoriaeth Fuddsoddi, gwerth 拢220 miliwn, yn edrych ar gynigion sy鈥檔 amlygu eiddo deallusol unigryw, arweinyddiaeth farchnata a chryfder cystadleuol. Bydd yn cefnogi cynigiadau mewn sectorau twf a dargedir sydd 芒鈥檙 potensial mwyaf am adenillion economaidd uniongyrchol ar fuddsoddiad drwy greu swyddi a chynnydd mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA).

Bydd y Flaenoriaeth Seilwaith, gwerth 拢200 miliwn, yn canolbwyntio ar gyd-fuddsoddiad wedi鈥檌 dargedu a chydgyfrannu adnoddau i gyflawni鈥檙 effaith fwyaf bosibl drwy gyflenwi prosiectau seilwaith ffisegol a digidol newydd, yn cynnwys ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, band eang, sgiliau, safleoedd neu feinciau arbrofi.

Bydd y Flaenoriaeth Her, gwerth 拢75 miliwn, yn ceisio ysgogi鈥檙 gorchwyl o fabwysiadu cynnyrch a datrysiadau newydd yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd yn ystyried sut i dyfu marchnadoedd newydd ac mae鈥檔 croesawu cynigion sy鈥檔 codi o fannau cystadleuol lle y gallai mwy nag un sefydliad neu unigolyn gael eu cyfarparu i gyflenwi er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd a rhychwant ar gyfer arbrofi.

Nod y model cyllido teirffordd yw datblygu piblinell gyflenwi gyda phartneriaid, o fewn a鈥檙 tu hwnt i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Diwydiannol ac Economaidd, a lansiwyd ym mis Chwefror yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: 鈥淲rth greu amgylchiadau ar gyfer twf cynaliadwy, mae鈥檔 rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng cryfhau arloesi, seilwaith a chystadleuaeth.

鈥淢ae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle anhygoel i鈥檔 rhanbarth ddatgloi鈥檌 botensial perfformio drwy weithredu prosiectau uchelgeisiol, trawsnewidiol, ac rwyf yn hyderus y bydd y Blaenoriaethau Arloesi, Seilwaith a Her yn helpu i gynnal y cydbwysedd hwn ac i ddod 芒 buddion sy鈥檔 para.鈥

Dywedodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: 鈥淓in nod trosfwaol yw gwella amgylchedd busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy fuddsoddiadau strategol, wedi鈥檜 targedu.

鈥淏ydd y tair blaenoriaeth hyn yn ein galluogi i dargedu a dethol prosiectau sy鈥檔 gysylltiedig ag amcanion twf y Cynllun Diwydiannol ac Economaidd, a ddaw ag adenillion sylweddol ar fuddsoddiadau ac sy鈥檔 helpu i gadw鈥檙 Fargen Ddinesig yn fythol wyrdd; i gefnogi prosiectau seilwaith dan arweiniad y sector cyhoeddus sy鈥檔 angenrheidiol i ddenu ac i alluogi buddsoddiad yn y rhanbarth; ac i annog cynhyrchu datrysiadau arloesol.

鈥淩ydym yn optimistaidd y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddod yn un o鈥檙 rhanbarthau mwyaf buddsoddadwy o fewn y Deyrnas Unedig, ac fe edrychwn ymlaen at dderbyn a thanio鈥檙 cynigion fydd yn cyfrannu at wneud iddo ddigwydd.

鈥滿ae鈥檙 Fargen Ddinesig eisoes wedi cytuno ar ddau fuddsoddiad allweddol. Ym mis Mai, 2017, fe gytunodd y Cabinet Rhanbarthol eisoes i fuddsoddi 拢38.5 miliwn i gynorthwyo i ddatblygu clwstwr diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth, ac ym mis Ionawr, 2018, fe gytunodd mewn egwyddor i ymrwymo 拢40 miliwn i gadarnhau Datblygiad y Metro Canolog gwerth 拢180 miliwn arfaethedig, prosiect fydd yn darparu Cyfnewidfa Trafnidiaeth Ganolog newydd wrth graidd Parth Cyflogaeth Graidd canol dinas Caerdydd.

I gael mwy o wybodaeth am y tair blaenoriaeth ac i ganfod gwybodaeth am sut i gymryd rhan, cyrchwch y Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd yma. https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/buddsoddiad/