天美传媒

Ardal Fenter Glyn Ebwy yn ehangu i gynnwys tri safle newydd

Mae ffin Ardal Fenter Glyn Ebwy wedi cael ei hymestyn i gynnwys tri safle diwydiannol ychwanegol gan eu gwneud yn lleoliadau mwy deniadol ar gyfer buddsoddiadau newydd gan ddod 芒 manteision hefyd i'r busnesau sydd yno eisoes.  

Mae'r safleoedd newydd - Yst芒d Ddiwydiannol Tafarnau-bach, Yst芒d Ddiwydiannol Waun-y-pound a Pharc Victoria/Parc yr 诺yl - eisoes yn gartref i glwstwr cyflogaeth mawr gyda, erw o dir preifat a chyhoeddus y gellir ei ddatblygu ac yn barod i lenwi unedau sydd yn wag.

Maent bellach yn ymuno 芒 phum safle strategol newydd yn yr Ardal sy'n cynnwys Bryn Serth, Yst芒d Ddiwydiannol Rassau, Y Gweithfeydd, Parc Busnes Tredegar a Rhyd-y-Blew sy鈥檔 cael manteisio ar Lwfansau Cyfalaf Uwch.

Mae gan y pum safle hyn 83.5 erw o dir preifat a chyhoeddus y gellir ei ddatblygu yn ogystal ag unedau sy'n barod i gael eu llogi.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 鈥淏ydd gwella statws y safleoedd hyn sy'n ymuno 芒'r Ardal Fenter yn helpu i godi'u proffil, yn eu gwneud yn lleoliadau mwy deniadol i fuddsoddwyr posib ac yn cynnig lleoliadau strategol gwych ar gyfer busnesau newydd a busnesau sydd am ehangu.

"Mae Glyn Ebwy eisoes yn gartref i nifer o gwmn茂au gweithgynhyrchu mwyaf blaenllaw'r byd. Mae rhai ohonynt ar y safleoedd hynny sydd 芒'r lle a'r gallu i letya amrywiaeth eang o gwmn茂au gweithgynhyrchu eraill sy鈥檔 chwilio am safleoedd datblygu newydd neu unedau sy'n barod i'w defnyddio'n syth."

Ymhlith y prif gwmn茂au ar y safleoedd newydd hyn y mae PCI Pharma Services, cwmni angori Llywodraeth Cymru, a Tenneco Walker.