天美传媒

Rwy'n Penderfynu Fi - Ymgyrch Delwedd Corff Cadarnhaol

Fforwm Ieuenctid 天美传媒 yn Cyflwyno 鈥淵mgyrch Delwedd Corff Positif鈥

Delwedd Corff Positif oedd blaenoriaeth Charlotte Clark, y cyn Faer Ieuenctid. Bu Charlotte ynghyd ag aelodau o Fforwm Ieuenctid 天美传媒 yn cydweithio i gynhyrchu ffilm fer a phosteri y gellir eu gweld islaw.

Darcey Howell yw ein Maer Ieuenctid newydd gyda Chloe Lines yn Ddirprwy Faer Ieuenctid. Y blaenoriaethau cyfredol yw Gweithgaredd Corfforol/Iechyd Meddwl a Bwlio.

Hoffech chi gymryd rhan a dweud eich barn?

Cysylltwch 芒 Lissa Friel i gael mwy o wybodaeth ar 07870998187 neu lissa.friel@blaenau-gwent.gov.uk

Mae 'I Decide Me' yn ymgyrch delwedd corff gadarnhaol a gr毛wyd i helpu i roi awgrymiadau i chi ar ddod yn gorff positif a mabwysiadu agwedd "gwerthfawrogi fi amdanaf".

Syniadau Corff Cadarnhaol
鈥淔y ngwerthfawrogi am beth ydw I鈥

Cynghorion syml i dy helpu i ofalu amdanat dy hun.

GLANHAU DY GYFRYNGAU CYMDEITHASOL 鈥 Mae hyn yn cynnwys dad-ddilyn cyfrifon/tudalennau sy鈥檔 hyrwyddo cynnyrch diet heb fod yn iach neu sy鈥檔 gwneud i ti deimlo鈥檔 negyddol amdanat dy hun.

DY DDILLAD 鈥 Cofia fod dy ddillad i fod i dy ffitio di ac nid y ffordd arall o amgylch.

CADARNHAOL AM DY GORFF 鈥 Ysgrifenna bethau cadarnhaol amdanat dy hun ar nodiadau gludiog, yna鈥檜 rhoi mewn mannau y byddi鈥檔 edrych arnynt yn aml i dy atgoffa pa mor rhyfeddol wyt ti.

DY GLORIAN
鈥 Cofia dy fod yn fwy na rhif ac nad yw cael pwysau corff uchel bob amser yn beth gwael. Pan fyddi鈥檔 ymarfer, mae dy gorff yn troi braster i gyhyrau a all mewn gwirionedd bwyso mwy na braster felly cofia hynny pan fyddi鈥檔 edrych ar y glorian.

CREU JAR HAPUS
鈥 Bob tro y cei funud neu atgof hapus neu鈥檔 gwneud rhywbeth yr wyt yn falch ohono, ysgrifenna ef i lawr a鈥檌 roi mewn jar, byddi wedyn yn gallu defnyddio鈥檙 profiadau cadarnhaol i godi dy galon pan fyddi鈥檔 cael diwrnod gwael.

YMARFER
鈥 Dylet ymarfer o leiaf 30 munud y diwrnod os medri, hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro cyflym, mae manteision ymarfer a chadw鈥檔 ffit yn enfawr i dy gorff rhyfeddol a dy iechyd meddwl.

DIGON O GWSG
鈥 Cofia gael digon o gwsg. Mae dy gorff angen 8-9 awr y dydd i helpu adfer/ailadeiladu er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod i ddod.

顿糯搁
鈥 Mae 80% o dy gorff yn dd诺r felly mae鈥檔 bwysig yfed digon yn ystod y dydd i dy helpu i weithredu鈥檔 iawn.

#maeyniawnbodynti #newidcanfyddiadau #maepawbynhardd

Fy Nghorff Rhyfeddol
鈥淲yddech ti?鈥

Ffeithiau rhyfeddol am dy gorff

  • Mae dy gorff yn gwneud celloedd croen newydd drwy鈥檙 amser
  • Yn ogystal ag 么l-bysedd unigryw, mae gan bobl 么l tafod unigryw.
  • Pe byddent yn cael eu rhoi mewn rhes, gallai gwythiennau oedolyn fynd o amgylch cyhydedd y byd bedair gwaith drosodd.
  • Mae gwybodaeth yn carlamu ar hyd y nerfau ar tua 249 milltir yr awr.
  • Mae calon person yn curo mwy na thair biliwn o weithiau yn ystod oes arferol.
  • Y croen yw organ mwyaf y corff dynol ac mae鈥檔 ffurfio 15% o gyfanswm pwysau person.
  • Mae dy ymennydd weithiau鈥檔 brysurach pan fyddi鈥檔 cysgu na phan wyt yn effro.
  • Dy afu yw鈥檙 unig organ yn dy gorff fydd yn dal i weithio hyd yn oed os yw wedi ei niweidio a gall hefyd atgyweirio ei hun dros gyfnod.
  • Mae system gylchrediad gwythiennau ac ati tua 60,000 milltir o hyd.

#maeyniawnbodynti #newidcanfyddiadau #maepawbynhardd

Dogfennau Cysylltiedig