天美传媒

Sefydlu Maer Ieuenctid - Rhagfyr 2021

Cynhaliwyd Digwyddiad Sefydlu Maer Ieuenctid 天美传媒 am 6pm ar 6 Rhagfyr 2021 yn Nh欧 Bedwellte.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ddathlu popeth a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dathlodd Darcey Howell, sy鈥檔 gadael r么l Maer Ieuenctid, ei llwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal 芒 rhannu ei thaith democratiaeth oedd yn wir yn ysbrydoliaeth.

Daeth Chloe Lines yn Faer Ieuenctid newydd 天美传媒 a chyhoeddodd mai ei blaenoriaeth fydd atal bwlio, gan godi ymwybyddiaeth o鈥檙 effeithiau a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael. Daeth Mara Moruz yn Ddirprwy Faer Ieuenctid newydd, a nododd ei blaenoriaeth am newid hinsawdd a鈥檙 camau y byddai鈥檔 eu cymryd dros y ddwy flynedd nesaf.

Cefnogwyd tyngu鈥檙 llwon gan y Cyng. Moore a gymerodd ran yn y sefydlu am y drydedd blwyddyn yn olynol, ac sy鈥檔 gefnogwr ymroddedig i bobl ifanc a鈥檙 Fforwm Ieuenctid. Ymunwyd 芒 ni hefyd gan y gwestai arbennig Gracie-Jayne Fitzgerald a roddodd araith dwymgalon o ddiolch gan iddi gael ei hysbrydoli鈥檔 wirioneddol, gan fod yn berson ifanc ei hun. Canodd Gracie yn hyfryd i ddod 芒鈥檙 noswaith i ben ac i ddathlu鈥檙 digwyddiad.

Dywedodd y Cyng Moore 鈥淩oedd hon yn noswaith i鈥檞 chofio ac edrychwn ymlaen at barhau i ddathlu llwyddiannau鈥檙 Fforwm Ieuenctid.鈥

Darcey Howell, Maer Ieuenctid Tachwedd 2020 鈥 Tachwedd 2021

Mae Darcey Howell o Dredegar yn angerddol am weithgaredd corfforol a鈥檙 cysylltiadau rhwng hynny 芒 iechyd meddwl a llesiant. Gwnaeth Darcey hyn yn flaenoriaeth iddi pan oedd yn Faer Ieuenctid.

Dros y flwyddyn ddiwethaf cyflwynodd Darcey ddau gais am gyllid, un i brynu offer i sefydlu Academi Ieuenctid mewn campfa leol ac un arall i鈥檞 chlwb nofio sicrhau cyllid ar gyfer blociau nofio a hyfforddiant i bobl ifanc ddod yn hyfforddwyr eu hunain.

Ym mis Medi mynychodd y Fforwm Ieuenctid sesiwn yn y gampfa i lansio鈥檙 Academi Ieuenctid ac ers hynny mae 16 o bobl ifanc wedi ymuno a chyflwynwyd 20 sesiwn hyd yma.

Os hoffech fod yn rhan o鈥檙 academi ieuenctid gallwch ymuno drwy Instagram @athlecticfitnessuk neu gallwch ffonio Mike yn uniongyrchol ar 07792143560. Rwy鈥檔 sicr y byddwch yn cytuno y bydd cyfraniad Darcey yn cefnogi pobl ifanc yn awr ond hefyd mewn blynyddoedd i ddod!