Beth yw tystysgrif mangre clwb?
I awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant wedi'i reoleiddio mewn clwb sy'n cymhwyso, rydych angen tystysgrif mangre clwb gan y Cyngor. Mewn clwb sy'n cymhwyso, nid oes yn dechnegol unrhyw werthiant drwy fanwerthu alcohol (heblaw i westeion) gan fod yr aelod yn berchen rhan o'r stoc alcohol ac nid yw'r arian sy'n pasio ar draws y bar yn ddim ond dull i gadw tegwch rhwng aelodau lle gall un yfed mwy nag un arall. Er mwyn bod yn glwb sy'n cymhwyso, mae'n rhaid i chi hefyd fodloni'r gwahanol ofynion a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003.
Fel arfer caiff tystysgrif ei rhoi am gyfnod amhenodol ond gall fod am gyfnod sefydog a gellir ei adolygu unrhyw amser.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli tystysgrifau mangre clwb?
Pwy all wneud cais?
I fedru gwneud cais am dystysgrif mangre clwb, mae'n rhaid i glwb fedru dangos ei fod yn cyflawni rhai meini prawf i'w alluogi i ddod yn glwb sy'n cymhwyso. Y meini prawf yw:
na all person gael aelodaeth neu fel ymgeisydd ar gyfer aelodaeth ar gyfer unrhyw freintiau aelodaeth heb gyfnod o leiaf ddau ddiwrnod o'u cais neu enwebiad am aelodaeth ac y dyfernir eu haelodaeth
bod rheolau'r clwb yn nodi na all y rhai sy'n dod yn aelod heb enwebiad neu gais gael breintiau aelodaeth am o leiaf ddau ddiwrnod rhwng iddynt ddod yn aelodau a chael eu derbyn i'r clwb
y sefydlir ac y cynhelir y clwb mewn ffydd da
bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
mai dim ond i aelodau ar y safle ar ran neu gan y clwb y cyflenwir alcohol
Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus cofrestredig a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os caiff alcohol a brynir ar gyfer ac a gyflenwir gan y clwb ei wneud dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.
Gellir hefyd ystyried sefydliadau lles glowyr. Sefydliad perthnasol yw un a gaiff ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd sy'n cynnwys o leiaf ddau draeaen o bobl a benodwyd neu a godwyd gan un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 a gan un neu fwy o sefydliadau sy'n cynrychioli cyflogeion pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu fwrdd lle na ellir ffurfio'r bwrdd fel y manylir uchod ond yn cael ei ffurfio o leiaf ddau-draean aelodau oedd yn cael eu cyflogi neu a gaiff eu cyflogi yn neu o amgylch pyllau glo a hefyd gan bobl a benodwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gan gorff gyda swyddogaethau tebyg dan Ddeddf Lles Glowyr 1952. Yn unrhyw achos, mae'n rhaid cadw safleoedd y sefydliad mewn ymddiriedolaeth fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.
Beth yw'r broses gais?
Wrth wneud cais am dystysgrif mangre clwb, mae'n rhaid i ysgrifennydd y clwb gyflwyno:-
y ffurflen gais briodol yn cynnwys y rhaglen wetihredu
cynllun o'r fangre
y ffi perthnasol
Datganiad i ddyfarnu Tystysgrif Mangre Clwb
copi o reolau'r clwb
Dylai'r rhaglen weithredu gynnwys manylion:
y gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer
yr amserau y cynhelir y gweithgareddau
unrhyw amser arall pan fydd y fangre ar agor i aelodau a gwesteion
yn achos tystysgrif gyfyngedig, y cyfnod y mae angen tystysgrif ar ei gyfer
p'un ai a werthir yr alcohol ar gyfer ei yfed yn neu i ffwrdd o'r fangre neu'r ddau
y camau y cynigir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
Mae'n rhaid i'r ysgrifennydd anfon cop茂au o'r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Mae hefyd yn rhaid iddo/iddi hysbysu'r cais drwy roi hysbysiad glas yn ffenestr y fangre clwb a hysbyseb yn y papur lleol.
Bydd cyfnod ymgynghori 28 diwrnod ar gyfer ceisiadau newydd a cheisiadau amrywiad ac yn ystod y cyfnod hwnnw gall yr Heddlu, y Gwasanaeth T芒n, Adrannau'r Cyngor a phersonau eraill megis preswylwyr lleol a busnesau, cynghorwyr ac ati wneud sylwadau.
A allaf wneud cais ar lein?
Gallwch hefyd:-
Faint yw'r gost?
Mae ffioedd yn seiliedig ar werth trethiannol eiddo a caiff gwerthoedd trethiannol eu rhannu yn 5 band, A i E. Mae'r ffi taladwy am dystysgrif yn dibynnu ar ba fand y mae eiddo ynddo. Codir ffi flynyddol hefyd.
GWERTH TRETH-IANNOL |
0 to 拢4,300 |
拢4,301 to 拢33,000 |
拢33,001 to 拢87,000 |
拢87,001 to 拢125,000 |
拢125,001 |
BAND |
A |
B |
C |
D |
E |
CAIS |
&苍产蝉辫;拢100 |
&苍产蝉辫;拢190 |
&苍产蝉辫;拢315 |
&苍产蝉辫;拢450 |
&苍产蝉辫;拢635 |
FFI FLYNYDDOL |
&苍产蝉辫;拢70 |
&苍产蝉辫;拢180 |
&苍产蝉辫;拢295 |
&苍产蝉辫;拢320 |
&苍产蝉辫;拢350 |
AMRYWIAD |
&苍产蝉辫;拢100 |
拢190 |
&苍产蝉辫;拢315 |
&苍产蝉辫;拢450 |
&苍产蝉辫;拢635 |
M脗N AMRYWIAD |
&苍产蝉辫;拢89 |
&苍产蝉辫;拢89 |
&苍产蝉辫;拢89 |
&苍产蝉辫;拢89 |
&苍产蝉辫;拢89 |
LLUOSYDD |
N/A |
N/A |
N/A |
&苍产蝉辫;拢900 |
&苍产蝉辫;拢1905 |
D.S. Bydd ffioedd Band C yn weithredol yn achos mangre sy'n cael ei godi ond heb ei adeiladu eto, na phenderfynwyd y gwerth trethiannol
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu nghais ac a fydd caniat芒d dealledig?
Y cyfnod ymgynghori ar gyfer cais yw 28 diwrnod. Os na dderbynnir unrhyw sylwadau yn ystod y cyfnod yma, yna bydd caniat芒d dealledig yn weithredol. Mewn geiriau eraill, bernir fod y cais wedi'i gytuno. Fodd bynnag, nid oes caniat芒d dealledig os derbynnir sylwadau. Mae'n rhaid i'r Cyngor alw gwrandawiad, os oes angen, i benderfynu ar y cais, o fewn 20 diwrnod gwaith ar 么l diwedd y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod. Mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried pob sylw a phenderfynu os dylid dyfarnu'r dystysgrif gan ei bod yn y budd cyhoeddus i brosesu cais yn llawn cyn ei gytuno. Gallwch e-bostio'r T卯m Trwyddedu os na chlywch am eich cais gan Cyngor o fewn 56 diwrnod o'i gyflwyno.
A allaf apelio os gwrthodir fy nghais?
Gallwch, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i Lys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad. Gallwch hefyd apelio os y cytunir ar y dystysgrif ond nad ydych yn hapus gyda'r amodau a roddwyd ac yn erbyn dileu tystysgrif.
Gall rhywun sydd 芒 diddordeb neu awdurdod cyfrifol a wnaeth sylwadau perthnasol ar gais apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i roi'r dystysgrif, neu unrhyw amodau a osodwyd, i'r Llys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu am y penderfyniad.
Cwynion defnyddwyr
Gall rhywun a diddordeb, awdurdod cyfrifol neu aelod o glwb wneud cais i'r Cyngor am adolygu tystysgrif mangre clwb ac mae'n rhaid cynnal gwrandawiad i benderfynu ar y cais. Os oes gennych g诺yn, cysylltwch 芒 Th卯m Trwyddedu'r Cyngor.
Manylion cyswllt
Ff么n: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk