Beth yw trwydded Casglu Drws i Ddrws?
Mae sefydliad, elusen neu unigolyn sy'n dymuno cynnal casgliad elusennol ar gyfer arian neu eiddo drwy wneud ymweliadau i bobl yn eu cartref neu eu man gwaith angen trwydded casglu drws i ddrws. Fodd bynnag, nid oes angen trwydded ar gyfer digwyddiadau a noddir neu lle gadewir blwch casglu mewn safle busnes e.e. siop, tafarn, i'w casglu yn ddiweddarach.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli trwyddedau casglu drws i ddrws?
Deddf Casgliadau Drws i Ddrws 1939 sy'n rheoli casgliadau drws i ddrws.
Pwy all wneud cais?
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais fodd bynnag mae'n rhaid i'r ymgeisydd brofi eu bod yn berson addas a phriodol.
Beth yw'r broses gais?
Mae'n rhaid anfon y ffurflen gais berthnasol i'r Cyngor ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan yr elusen berthnasol. Yn ychwanegol, gall fod angen i'r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi'r cais h.y. cop茂au o gyfrifon casgliadau eraill.
Os cymeradwyir y cais, mae'n rhaid gwneud casgliadau arian mewn cynwysyddion wedi'u selio ac o fewn un mis o ddyddiad y casgliad, mae'n rhaid i hyrwyddwr y casgliad gyflwyno ffurflen i'r Cyngor yn nodi'r swm o arian neu werth yr arian a gasglwyd.
A allaf wneud cais ar-lein?
Anfon
Faint yw'r gost?
Nid oes unrhyw ffi'n daladwy.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniat芒d dealledig yn weithredol?
Bydd y Cyngor yn trin eich cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag dylech gysylltu 芒'r Cyngor os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o anfon eich cais. Nid oes caniat芒d dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i'ch os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.
A allaf apelio os caiff fy nghais ei wrthod?
Gallwch apelio i Weinidog Swyddfa'r Cabinet o fewn 14 diwrnod os gwrthodir eich cais.
Cwynion cwsmeriaid
Os oes gennych g诺yn am gasgliad elusennol, cysylltwch 芒 Th卯m Trwyddedu'r Cyngor
Manylion cyswllt
Ff么n: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk