天美传媒

Trwydded Casgliad Stryd

Beth yw caniat芒d Casgliad Stryd?

Mae elusen, sefydliad neu unigolyn sy'n dymuno casglu casgliad elusennol ar gyfer arian neu eiddo neu werthu eitemau er budd dibenion elusennol mewn stryd neu fan cyhoeddus angen caniat芒d casgliad stryd. Fodd bynnag, nid oes angen caniat芒d ar gyfer digwyddiadau nawdd neu lle gadewir blwch casglu mewn safle busnes e.e. siop, tafarn, ar gyfer casgliad yn ddiweddarach.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli casgliadau stryd?

Mae Deddf yr Heddlu, Ffatrioedd (Darpariaethau Amrywiol) 1916 yn rheoli caniat芒d casgliadau stryd. Cliciwch yma i weld .

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais fodd bynnag mae'n rhaid i'r ymgeisydd brofi eu bod yn berson addas a phriodol.

Beth yw'r broses gais?

Cyn gwneud cais, dylech wirio gyda'r T卯m Trwyddedu os yw dyddiad arfaethedig y casgliad ar gael. Mae'n rhaid cyflwyno'r ffurflen gais briodol i'r Cyngor ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan yr elusen dan sylw. Yn ychwanegol, gall fod angen i'r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi'r cais, h.y. cop茂au o gyfrifon casgliadau eraill.

Os cymeradwyir y cais, mae'n rhaid gwneud casgliadau arian mewn cynwysyddion wedi'u selio ac mae'n rhaid i hyrwyddwr y casgliad gyflwyno ffurflen i'r Cyngor o fewn un mis o ddyddiad y casgliad yn nodi'r swm o arian neu werth yr arian a gasglwyd.

A allaf wneud cais ar-lein?

Gallwch hefyd:-

Anfon .

Faint yw'r gost?

Nid oes unrhyw ffi'n daladwy.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniat芒d dealledig yn weithredol?

Bydd y Cyngor yn trin eich cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag dylech gysylltu 芒'r Cyngor os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o anfon eich cais. Nid oes caniat芒d dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i'ch os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.

A allaf apelio os caiff fy nghais ei wrthod?

Gallwch apelio i Weinidog Swyddfa'r Cabinet o fewn 14 diwrnod os gwrthodir eich cais.

Cwynion cwsmeriaid

Os oes gennych g诺yn am gasgliad elusennol, cysylltwch 芒 Th卯m Trwyddedu'r Cyngor 

Manylion cyswllt

Ff么n: 01495 369700 
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk