天美传媒

Gwasanaeth Gwastraff Busnes

Y Diweddaraf am Reoliadau Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu Newydd Llywodraeth Cymru

O ganlyniad i ohebiaeth ddiweddar gan gwmni casglu gwastraff lleol, na fyddant yn cynnig gwasanaeth ailgylchu masnachol cydymffurfio yn unol 芒 rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru rheoliadau a ddaw i rym ar 6ed Ebrill 2024, rydym yn profi lefelau digynsail o galwadau ac ymholiadau am ein gwasanaeth ailgylchu a gwastraff masnachol/annomestig.

Rydym yn ymateb i'r alwad hwn cyn gynted ag y gallwn ond ar fyr rybudd, bydd yn cymryd amser i ni gynyddu adnoddau a phrosesu pob cais sy'n golygu na ellir sefydlu pawb sydd wedi gofyn am ein gwasanaeth mewn pryd ar gyfer Ebrill 6ed.

Byddwn yn prosesu pob cais newydd cyn gynted ag y gallwn ac wedi siarad 芒 Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gofyn beth y gellir ei wneud i liniaru unrhyw bryderon gorfodi听 theimlai gan fusnesau a sefydliadau na ellir ei sefydlu cyn 6ed Ebrill ac maent wedi ymateb fel a ganlyn:

'O 6ed Ebrill 2024, RHAID i bob gwastraff(iau) sy'n dod i mewn / allan o ffynonellau annomestig, fod wedi'u gwahanu. Yn naturiol, bydd proses 'sarnu i mewn' yng nghamau cynnar cyflwyno'r rheoliadau hyn, fodd bynnag, os bydd CNC yn canfod diffyg cydymffurfio parhaus a / neu ddifrifol o hyn o ddigwyddiadau a adroddwyd a/neu unrhyw ddiffyg cydymffurfio yr ydym wedi'i nodi a'i gofnodi efallai bydd angen gweithredu pellach.

Os byddwch yn rhoi gwybod i'ch cleientiaid am wneud eu gorau i gydymffurfio hyd nes y bydd eu biniau newydd yn cyrraedd, bydd hyn yn helpu os ydynt yn cael eu harolygu ac yn gallu dangos eu bod wedi gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio'.

Yn seiliedig ar gyngor CNC, ar gyfer cwsmeriaid presennol CBSBG sy'n gofyn am ychwanegiadau, parhewch 芒'ch trefniadau presennol nes y gallwn brosesu eich cais os gwelwch yn dda.

Ar gyfer busnesau/sefydliadau sy'n gwneud cais am ein gwasanaeth, siaradwch 芒'ch darparwr presennol am wasanaeth parhaus nes ein bod yn gallu prosesu a darparu eich gwasanaeth y gofynnwyd amdano.

I bawb yr effeithir arnynt, gwnewch yn si诺r eich bod yn cadw'r holl waith papur perthnasol hwn fydd eich prawf o fod wedi "gwneud popeth ymarferol i gydymffurfio" fel y cynghorir gan CNC.

Gwybodaeth Bwysig

Mae rheoliadau newydd ar wastraff busnes/annomestig yn dod i rym yng Nghymru o 6 Ebrill 2024 sy鈥檔 golygu NA ddylid rhoi papur, plastig, caniau, gwydr, cardfwrdd a bwyd yn y bin gwastraff gweddilliol (sbwriel). Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 gwastraff hwn y gellir ei ailgylchu gael eu cyflwyno ar wah芒n i鈥檞 casglu ar ochr y palmant.

I gael manylion pellach ewch i

Gwastraff ac Ailgylchu Safleoedd Busnes/Annomestig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒 yn cynnig gwasanaeth gwastraff masnachol y codir t芒l amdano ac a gaiff ei arwain gan ailgylchu sydd eisoes yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu ailgylchu sych a bwyd ar ochr y ffordd a gwahardd deunyddiau y gellid eu hailgylchu o wastraff gweddilliol [sbwriel]).

Gofynion Cyfreithiol am Wastraff Busnes/Annomestig

Ni chaiff gwastraff masnachol/annomestig ei gynnwys mewn ardrethi busnes ac mae gan holl feddianwyr safleoedd o鈥檙 fath 鈥榙dyletwydd gofal鈥 dan adrannau 33 a 34 Deddf Diogelu鈥檙 Amgylchedd 1990. Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar gynhyrchwyr gwastraff annomestig i sicrhau y caiff y gwastraff a gynhyrchir ei gadw mewn modd diogel ac wedi鈥檌 reoli ac mai dim ond i gwmni neu sefydliad sydd 芒 thrwydded i鈥檞 gasglu a gwaredu ag ef y caiff ei drosglwyddo. Caiff hyn ei reoli drwy Nodyn Dyletswydd Gofal/Trosglwyddo Gwastraff (DOC/WRN). Dylid cadw pob DOC/WTN a lofnodwyd gennych chi a hefyd eich cariwr trwyddedig am o leiaf 2 flynedd.

Mae鈥檙 gofynion DOC/WTN mewn grym ar gyfer gwastraff o safleoedd annomestig, yn cynnwys y rhai a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus ac elusennau. Mae safleoedd annomestig yn cynnwys unrhyw safle heblaw eiddo domestig neu garafan y mae rhywun yn byw ynddi fel cartref. Cyswllt a Deddf.

Diweddariad ar Ddeddfwriaeth

Mae鈥檙 rheoliadau am wastraff masnachol/annomestig yn newid yng Nghymru. Mae鈥檙 rheoliadau newydd a gyhoeddwyd dan adran 45AB Deddf Diogelu鈥檙 Amgylchedd 1990 a chant eu cyflwyno i gynyddu ailgylchu ansawdd uchel a gwahardd rhai deunyddiau o domen lanw neu losgydd (Ynni o Wastraff).
Cafodd y ddeddfwriaeth newydd, oedd i fod i gael ei hymestyn yn 2020 ac sy鈥檔 ei gwneud yn ofynnol i safleoedd busnes/annomestig wahanu eu gwastraff, ei gohirio oherwydd y pandemig ond yr wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru (Ebrill 2023) yw y daw鈥檙 rheoliadau newydd i rym yn awr ar 6 Ebrill 2024. Ar 么l y dyddiad hwn, bydd ailgylchu cymysg yng Nghymru yn anghyfreithlon.

Mae鈥檙 rheoliadau newydd hyn yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar safleoedd busnes/annomestig i gyflwyno eu hailgylchu wedi ei wahanu wrth ymyl y ffordd ac i bob gwasanaeth casglu gwastraff masnachol trwyddedig ei gasglu a鈥檌 storio/prosesu yn y cyflwr hwnnw wedi ei wahanu. Mae鈥檙 rheoliadau newydd yn cynnwys dirwyon am ddiffyg cydymffurfiaeth gan y cynhyrchydd a hefyd y casglwr
*Mae gwasanaeth gwastraff masnach ac ailgylchu CBSBG wedi cydymffurfio gyda鈥檙 rheoliadau newydd ers mis Mai 2021 ac felly mae ein cwsmeriaid cyfredol eisoes yn cymryd yr opsiwn gwyrddaf ac ni fydd y newid yn effeithio arnynt*.

Ein Gwasanaeth

Yn unol ag ethos y ddeddfwriaeth newydd, mae ein gwasanaeth yn cydymffurfio鈥檔 llwyr a chaiff ei arwain gan ailgylchu sy鈥檔 golygu ein bod yn ei gwneud yn ofynnol i bob opsiwn ailgylchu perthnasol gael ei flaenoriaethu fel mai dim ond deunydd na fedrir ei ailgylchu sydd ar 么l (gwastraff gweddilliol neu sbwriel).
Ar hyn o bryd gellir ailgylchu tua 70-80% o wastraff cyffredinol felly gyda鈥檔 costau ailgylchu llawer is, gallwch arbed arian a chynyddu鈥檙 arbediad hwnnw drwy gadw eich gofynion gwastraff gweddilliol mor isel ag sydd modd. Gwastraff gweddilliol (sbwriel) sy鈥檔 costio mwyaf i鈥檞 waredu ac ni ddylai gynnwys unrhyw ddeunydd ailgylchu y gallwn ei gasglu ar hyn o bryd.
Llyfryn Gwasanaeth

Mae ein gwasanaeth yn cynnig:

  • Cydymffurfiaeth gyda rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru (gwahanu gwastraff ar ymyl y ffordd)
  • Casgliad wythnosol dibynadwy o ailgylchu sych, ailgylchu bwyd a gwastraff gweddilliol (sbwriel)
  • Cerbydau ailgylchu pwrpasol, mewn cyflwr da a gyda sawl adran
  • Ystod eang o feintiau bin/cynwysyddion i ymdopi gyda holl ofynion o gawell 55 ltr hyd at fin 1100 Ltr, 4 olwyn felly beth bynnag yw maint eich busnes neu sefydliad, mae gennym opsiynau i weddu i chi.
    Contract treigl 12 mis.
  • Canolfan gyswllt ar gael 5 diwrnod yr wythnos gydag opsiynau ar gyfer cysylltu yn uniongyrchol drwy E-bost gyda swyddogion gwastraf

I gael manylion llawn yn cynnwys yr holl costau, cysylltwch 芒 ni ar 1495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk

Cynnig Gwasanaeth newydd, Mynediad Masnachwyr i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC)

Ar gyfer rhai busnesau, nid gwasanaeth casglu wythnosol dan gontract yw鈥檙 un gorau gan y gallech fod yn gweithio o fan neu efallai bod eich cynhyrchu gwastaff yn anghyson.
Bydd CBSBG yn ymestyn ein gwasanaeth masnachol yn y dyfodol agos drwy gynnig opsiwn y codir t芒l amdano ar gyfer masnachwyr/meddianwyr eiddo annomestig i ddod ag AILGYLCHU MASNACHOL YN UNIG i HWRC ddiweddaraf y fwrdeistref yn Roseheyworth sydd 芒鈥檙 drwydded angenrheidiol ar gyfer gwastraff masnach. Daw鈥檙 cyfnod prawf i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (31 Mawrth 2024) pan gaiff ei adolygu ac yna鈥檔 dibynnu ar alw a lefel llwyddiant, gwneir penderfyniad ar p鈥檜n ai i gario ymlaen ai peidio.

Caiff masnachwyr gyfle i brynu trwydded/nodyn trosglwyddo gwastraff ar gyfer naill a 12 neu 24 ymweliad blynyddol (pro rata ar gyfer y cyfnod prawf) neu opsiwn unigol gyda鈥檙 pris yn seiliedig ar nifer yr ymweliadau a maint y fan a ddatganwyd wrth wneud cais am y drwydded (bach/canolig/mawr).
Mae鈥檔 ofyniad gan y gyfraith fod yn rhaid i unrhyw un sy鈥檔 cludo gwastraff masnachol/annomestig gael Trwydded Cludwyr Gwastraff. Mae鈥檙 rhain ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid oes t芒l ar hyn o bryd ar gyfer y cludwyr haen isaf. Mae鈥檔 hanfodol cael Trwydded Cludo Gwatraff i wneud cais am drwydded i HWRC y Cyngor.

I gael manylion llawn yn cynnwys costau cysylltwch 芒 ni ar 01495 311556 neu drwy E-bost yn: waste@blaenau-gwent.gov.uk

I ble yr aiff fy ngwastraff ac ailgylchu?

Caiff yr holl wastraff ac ailgylchu a gesglir gan CBSBG ei waredu gyda鈥檙 bwriad o 鈥榙im i domen lanw鈥. Rhoddir blaenoriaeth i waredu drwy ailgylchu ac yna adfer fel yr esbonnir isod.

Ailgylchu Sych (Papur a Chardfwrdd, Cynwysyddion Plastig, Caniau a Cartonau Cwyr a Chynwysyddion Gwydr Cymysg):
Drwy ein gwasanaeth cydymffurfiol, mae ansawdd yr ailgylchu ar 么l ei wahanu yn uchel ac mae鈥檔 ein galluogi i gadw costau gwaredu ac felly brisiau yn isel. Caiff y deunydd eilgylch a gesglir ei wahanu ymhellach yn ein gorsaf drosglwyddo gwastraff ac yna aiff i wahanol ailbrosesyddion i gael ei wneud yn gynnyrch newydd.

Gwastraff Bwyd:
Caiff gwastraff bwyd ei anfon i safle treulio anerobig yng Nghymru. Mae treulio anerobig yn broses lle mae bacteria yn torri deunydd organig megis gwastraff bwyd i lawr, heb ocsigen. Wrth i鈥檙 bacteria ddefnyddio鈥檙 gwastraff bwyd, maent yn gollwng nwy bio sy鈥檔 codi i dop y treuliwr. Caiff y nwy ei gasglu a naill ai ei anfon i鈥檙 grid neu ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Caiff y llaid dilynol sy鈥檔 gyfoethog mewn maethion ei ddefnyddio fel gwrtaith ansawdd uchel ar gyfer amaethyddiaeth.

Gwastraff Gweddilliol (Sbwriel na fedrir ei ailgylchu):
Caiff y gwastraff gweddilliol ei anfon i safle 鈥淵nni o Wastraff鈥 ger Caerdydd lle caiff ei losgi a defnyddir y gwres i gynhyrchu trydan. Caiff metalau eu tynnu o鈥檙 lludw yng ngwaelod y llosgydd a chaiff y lludw ei hun ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer adeiladu ffyrdd a gwaith adeiladu arall.

Os hoffech gael mwy o fanylion am nifer tunelli ac i lle yr aiff y deunydd a gasglwn ac a broseswn, cliciwch yma:
1.

2.