天美传媒

Band Eang Cyflym Iawn

Mae band eang cyflym yn iawn ar gael ym mhob rhan o Flaenau Gwent. Mae hyn yn rhoi mynediad i offer a gwasanaethau busnes ar draws cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy. Gallai busnes, gweithrediadau, cyfathrebu gyda chwsmeriaid a rheolaeth cadwyn gyflenwi fod yn fwy effeithlon a gwella mantais gystadleuol busnes. 

Mae band eang ffibr yn galluogi busnesau i wneud marchnata'n ddigidol, cyrraedd cwsmeriaid drwy gyfathrebu newydd, cyflymach, mwy cyfoethog a rhwyddach eu holrhain. Mae cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn rhad ac yn rhwydd. Gweithio'n graffach, cyflymach, gwell. Bydd band eang cyflym iawn yn helpu i wella cynhyrchiant a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.